Trefniadaeth Dosbarth

Trefniadaeth Dosbarth yn Ysgol Plascrug

Mae dechrau’r ysgol yn garreg filltir bwysig i’ch plentyn. Fodd bynnag, mae’r broses o ddysgu eisoes wedi dechrau gartref gyda chi; chi a’ch teulu yw addysgwyr mwyaf dylanwadol eich plentyn.

Edrychwn ymlaen at groesawu chi a’ch plentyn at deulu ehangach yma yn Ysgol Plascrug. Rydym yn rhoi gwerth mawr ar greu partneriaeth gyda chi, fel y gallwn, gyda’n gilydd, barhau i helpu’ch plentyn i ddatblygu a dysgu.

Rydym yn hyderus y bydd eich plentyn yn hapus yn Ysgol Plascrug a gobeithiwn y byddwch chithau’n cael ymdeimlad o berthyn i gymuned Ysgol Plascrug.

Yma yn Ysgol Plascrug rydym yn ymdrechu i drefnu ein dosbarthiadau yn grwpiau blwyddyn o’r un-oed gyda dau ddosbarth cyfochrog yn rhedeg ochr yn ochr â’i gilydd trwy gydol yr ysgol. Y nifer mwyaf ym mhob dosbarth yw 30. Fodd bynnag, nid yw’r sefyllfa ddelfrydol hon bob amser yn bosibl; lle nad yw’r niferoedd yn ffafriol, h.y. niferoedd uchel mewn un grŵp blwyddyn a niferoedd isel iawn yn y grŵp blwyddyn nesaf, mae wedi bod yn angenrheidiol creu grwpiau oed cymysg.

Mae’r disgyblion yn mwynhau dysgu drwy amrywiaeth o bynciau ac ysgogiadau; rhoddir sylw i ddatblygu sgiliau disgyblion ym mhob maes pwnc ac rydym yn hyrwyddo dysgu gydol oes annibynnol. Ysgol hollol gynhwysol yw Ysgol Plascrug. Rydym yn cydnabod ac yn cefnogi disgyblion gydag anghenion addysgol a / neu gorfforol penodol yn gynnar iawn. Mae gennym nifer helaeth o athrawon, Gweithwyr Cymorth Disgyblion a Chynorthwywyr Cymorth Dysgu gydag ystod eang o sgiliau arbenigol.

Mae Ysgol Plascrug hefyd yn ymfalchïo o fod yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer cefnogi disgyblion sydd â Saesneg fel Iaith Ychwanegol (EAL). Mae gennym Weithiwr Cymorth Disgyblion Saesneg fel Iaith Ychwanegol arbenigol i ddarparu cymorth yn y dosbarth a hyfforddiant arbenigol i’n plant tramor.

Mae croeso i chi gysylltu â ni os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am ein hysgol.

01970 612286
admin@plascrug.ceredigion.sch.uk