Aberystwyth
Ysgol Plascrug School
Yma, yn Ysgol Plascrug, ein nod yw sefydlu hinsawdd o fewn yr ysgol a’r ystafell ddosbarth lle gall pob plentyn ddatblygu meddyliau bywiog a chwilfrydig, a dysgu ar gyflymder sy’n berthnasol i’w profiad a’u gallu eu hunain. Mae disgyblion yn datblygu cymhwysedd mewn llawer o sgiliau, ee Rhifedd, Llythrennedd, T.G.Ch., ac yn gallu defnyddio’r sgiliau hyn gyda mwy o hyder, cymhwysedd, dealltwriaeth a phleser ym mhob maes o’r cwricwlwm wrth iddynt symud trwy’r ysgol.
Ein Hysgol
Mae Ysgol Gynradd Gymunedol Plascrug yn ysgol a gynhelir gan yr AALl, wedi’i lleoli yn nhref arfordirol hyfryd Aberystwyth, Ceredigion. Mae’r mwyafrif o’r plant sy’n mynychu’r ysgol yn dod o’r dref ei hun, fodd bynnag, yn ystod y blynyddoedd diwethaf, oherwydd yr enw rhagorol mae’r ysgol wedi ennill, mae llawer o’n disgyblion nawr yn teithio ymhellach h.y. hyd at 40 milltir o radiws.
Cenhadaeth ac Amcanion
Yn Ysgol Plascrug, byddwn yn sicrhau bod pob plentyn yn ffynnu yn ein hysgol ni, sy’n rhoi plant yng nghanol ein cymuned. Credwn fod gan bob disgybl y potensial i wneud cynnydd rhagorol wrth ddatblygu sgiliau gydol oes mewn amgylchedd dwyieithog sy’n ddiogel, yn ofalgar ac yn ysbrydoledig. Byddwn ni’n rhoi’r cyfle gorau posib i bob plentyn lwyddo, gan ddathlu gyda nhw bob cam o’r ffordd.
Gwybodaeth i Rieni
Mae ParentMail yn wasanaeth cyfathrebu syml ond pwerus rhwng yr ysgol a’r cartref, gan helpu dros 4,350 o ysgolion i arbed amser, arian a gwella ymgysylltiad rhieni.
Ysgol Plascrug School
Ystyried ymuno â ni?
Wedi Sefydlu ers dros 40 mlynedd
Ysgol fodern, cosmopolitan
Staff ymroddedig a thalentog
Gofal cynhwysol ar gael
DERBYNIAD
Mynychu ein Ysgol
Trefniadaeth Dosbarth
Mae gan pob grŵp blwyddyn yn Ysgol Plascrug ddau ddosbarth sy’n gweithio’n agos gyda’i gilydd. Mae’r plant yn dod i adnabod eu holl gyfoedion yn y grŵp blwyddyn a’r staff yn dda iawn.
Dewiniaid Digidol
Dewiniaid Digidol yw aelodau etholedig o Flynyddoedd 5 a 6 sy’n cyfarfod yn wythnosol ar amser cinio, i ymgymryd â gwahanol brosiectau cysylltiedig â TG fel codio. Maent hefyd yn helpu i gefnogi athrawon a disgyblion trwy’r ysgol.
Cyngor Ysgol
Mae’r rhain yn aelodau etholedig o Flynyddoedd 2-6, o bob dosbarth sy’n cyfarfod yn rheolaidd. Maent yn gorff pwysig iawn o fewn yr ysgol a ymgynghorir ag ef yn aml mewn penderfyniadau sy’n ymwneud â bywyd ysgol.