ParentMail

Beth yw ParentMail?

Mae ParentMail yn wasanaeth cyfathrebu syml ond pwerus rhwng yr ysgol a’r cartref, gan helpu dros 4,350 o ysgolion i arbed amser, arian a gwella ymgysylltiad rhieni.

Manteision i’r Ysgol

  • Arbed o leiaf £2,000 bob blwyddyn trwy leihau’r defnydd o bapur, llungopïo a biliau traul
  • Treulio llai o amser yn argraffu a dosbarthu llythyrau at rieni
  • Cyfathrebu â rhieni trwy e-bost, tecst neu lythyr
  • Rheoli a lleihau absenoldeb
  • Helpu’r amgylchedd

Nid oes angen gosod meddalwedd i ddefnyddio ParentMail.

Mae ParentMail yn ddull dibynadwy o sicrhau eich bod yn derbyn gwybodaeth a anfonwyd gan ysgol Plascrug yn union.

  • Nid oes eisiau chwilio ym magiau ysgol eich plant!
  • Nid oes angen gofyn beth a ddigwyddodd i’r ‘nodyn hwnnw’!
  • Mae dyddiadau pwysig, e.e. Nosweithiau Rhieni neu ddigwyddiad arall o bwys ar gof a chadw!

Mae’r gwasanaeth hwn AM DDIM I rieni/gofalwyr. Er mwyn cofrestru gofynnwn am eich enw a’ch cyfeiriad e-bost, a pheidiwch â phoeni mae eich gwybodaeth yn ddiogel. Mae ParentMail yn sicrhau fod eich manylion yn cael eu cadw’n breifat. (Gweler eu rhif Gwarchod Data ar eu Gwefan).

Nid oes hysbysebion nag unrhyw ‘Spam’ ar ParentMail.

Gofynnwch yn y Dderbynfa os hoffech ychwaneg o wybodaeth am wasanaeth ParentMail Ysgol Plascrug.