What is the Urdd? Beth yw’r Urdd?
Mae’r Urdd yn fudiad cyffrous a deinamig i blant a phobl ifanc. Mae’n trefnu nifer o wahanol weithgareddau ledled Cymru. Mae gennym un ar bymtheg o swyddogion datblygu sy’n gweithio yng Nghymru i sicrhau bod yr Urdd yn cynnig rhaglen llawn gweithgareddau ar gyfer plant a phobl ifanc.
Sefydlwyd yr Urdd yn 1922 er mwyn rhoi cyfle i blant a phobl ifanc ddysgu a chymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg, yn ogystal â byw bywydau bywiog. Ar yr un pryd maent yn dysgu parchu ei gilydd a phawb ar draws y byd. Mae’r Urdd yn croesawu siaradwyr a dysgwyr Cymraeg. Pwy yw Aelodau’r Urdd??
- Mae 50,000 o blant a phobl ifanc yn aelodau o’r Urdd.
- Mae un ym mhob tri o bob siaradwr Cymraeg rhwng 8 a 18 oed yn aelodau o’r Urdd.
- Mae 30%o’r holl aelodau rhwng 16 a 25 mlwydd oed.
- Mae dros 3,000 o aelodau rhwng 16 a 25 oed.
- Aelodau enwog blaenorol o’r Urdd yw Huw Edwards, y darllenydd newyddion, Bryn Terfel, y canwr byd enwog, a Glyn Wise o’r gyfres Big Brother!
- Mae gan yr Urdd 10,000 o wirfoddolwyr sy’n weithgar mewn 900 o ganghennau yng Nghymru.
Beth sydd gan yr Urdd i’w gynnig i chi…
Yn eich ardal…
Tîm cydwybodol o staff sydd yn edrych ar ôl 300 o ganghennau lleol.
Trefnir gwyliau, clybiau wythnosol, cystadlaethau a theithiau i aros yng nghanolfannau preswyl yr Urdd.
Yn y canolfannau preswyl…
- Ceir pob math o weithgareddau o fynd ar dobogan, sgïo a marchogaeth yn Llangrannog i ymweld â Chanolfan Mileniwm Cymru neu Stadiwm y Mileniwm yng nghanolfan breswyl yr Urdd ym Mae Caerdydd.
- Mae yna rywbeth yn addas i bawb!
- Bob blwyddyn caiff disgyblion Blynyddoedd 4 a 5 gyfle i ymweld â Chanolfan yr Urdd yn Llangrannog neu ym Mae Caerdydd.
Gwersyll Yr Urdd Llangrannog Urdd Centre:
Gwersyll Yr Urdd Caerdydd | Urdd Centre Cardiff:
Ar y maes chwarae…
- Rygbi, nofio, pêl-droed, gymnasteg, athletau…mae’r rhestr yn ddiderfyn!
- Cyfle i gystadlu yn erbyn plant a phobl ifanc o bob cwr o Gymru.
- Clybiau wythnosol a chyrsiau chwaraeon.
Ar lwyfan yr Eisteddfod…
- Yr Eisteddfod yw gŵyl ieuenctid celfyddydol fwyaf Ewrop.
- Canu, dawnsio, actio, perfformio ,celf a dylunio a chystadlaethau ysgrifenedig.
- Mae 15,000 yn cystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd bob blwyddyn.
Yn y cylchgronau…
- Beth am ddarllen y storiâu diddorol neu ennill gwobrau yn y cystadlaethau yn Cip, Iau! Neu Bore Da?
- Mae yna gylchgronau ar gyfer dysgwyr Cymraeg a siaradwyr sy’n rhugl yn y Gymraeg.
- Bob mis darllenir 10,000 o gylchgronau mewn ysgolion a chartrefi ledled Cymru.
Os ydych yn dymuno gwybodaeth bellach am weithgareddau’r Urdd ym
Mhlascrug, cysylltwch â :
If you require further information about Urdd activities at
Plascrug School, please contact :
Ms Catrin Rhys neu Mr O Wyn
c.rhys@plascrug.ceredigion.sch.uk
o.wyn@plascrug.ceredigion.sch.uk
www.urdd.org