Croeso i Flwyddyn 4
Mae Blwyddyn 4 yn gweithio ar y thema ‘Syrcas a Ffeiriau’ y tymor hwn. Rydym yn edrych ar fywydau anifeiliaid yn y syrcas o’u cymharu â’u cynefin naturiol. Rydym yn edrych ar ‘rymoedd’ yn y reidiau ffair a’r gweithredoedd syrcas. Rydym hefyd yn gwneud Popcorn, yn peintio posteri syrcas lliwgar ac yn gwneud trelar i-symud ar gyfer syrcas deithiol.