Datganiad Cenhadaeth Ysgol Plascrug
Yma ym Mhlascrug mi fyddwn yn sicrhau y bydd pob plentyn yn ffynnu yn ein hysgol, sydd yn rhoi plant yn ganolog i’n cymuned. Credwn fod gan bob plentyn y gallu i wneud cynnydd rhagorol wrth ddatblygu sgiliau gydol oes mewn amgylchedd dwy ieithog sy’n ddiogel, ofalgar ac ysbrydoledig. Mi fyddwn yn rhoi y siawns gorau i lwyddo i bob plentyn gan ddathlu pob llwyddiant gyda’n gilydd.
Ein nodau
I alluogi plant i ddatblygu iechyd a llesiant cadarnhaol, gan gwmpasu’r dimensiynau corfforol, seicolegol, emosiynol, diwylliannol a chymdeithasol gan sicrhau eu bod yn cymryd rhan mewn bywyd gorau gallent mewn byd sydd yn newid yn barhaus.
I osod plant yn gadarn ar y llwybr i fod yn ddysgwyr gydol oes, uchelgeisiol sy’n cyflawni safonau uchel ac sy’n gallu defnyddio eu sgiliau llythrennedd, rhifedd a TGCh yn annibynnol, gan fwynhau her, a sy’n wydn yn wyneb unrhyw rwystrau.
I gyflwyno cwricwlwm eang, cyffrous a ymgysylltiol, gan ddefnyddio’r awyr agored yn llawn; sydd yn bwrpasol, yn bwerus ac yn bositif, gan alluogi plant i wneud cynnydd rhagorol gyda gwên ar eu hwynebau.
I osod creadigrwydd wrth wraidd yr hyn rydyn ni’n ei wneud ac yn dathlu’r daith greadigol y bydd pob plentyn yn ei gwneud.
Rhoi cyfle i bob plentyn ddatblygu sgiliau Cymraeg a dod yn ddwyieithog, gan gyfrannu at ymdeimlad o falchder yn hanes, treftadaeth a diwylliant Cymru, sydd ar gyfer pawb waeth a fydd plentyn yn byw yma am gyfnod byr neu thrwy’u hoes.
I ddathlu ein cymuned ysgol amlddiwylliannol ac amrywiol ac wrth wneud hynny ennyn parch at bob diwylliant a chrefydd.
Datblygu disgyblion fel dinasyddion byd-eang gwybodus sy’n cydnabod bod ganddynt gyfraniad i’w wneud i ddatrys y problemau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol sydd yn ein hwynebu yn lleol ac yn rhyngwladol.
Datblygu rhinweddau hunanddisgyblaeth a hunanreolaeth gan roi agwedd gyfrifol i blant tuag at yr ysgol a’i rheolau, parch at bobl eraill a’u heiddo a pharodrwydd i rannu a chydweithio â’i gilydd.
Parhau i adeiladu tîm cryf, ymroddedig a hapus sy’n mwynhau’r her barhaus o fod y gorau y gallwn fod ar gyfer pob plentyn yn Ysgol Plascrug.