Gwasanaeth Arlwyo Ceredigion
Croeso i adran Prydau Ysgol ein gwefan ysgol.
Manteision pryd o fwyd ysgol
- Gall eich plentyn elwa o brydau maethlon iach sydd yn arbed amser i chi trwy beidio â gorfod gwneud pecyn bwyd.
- Mae plant yn elwa o eistedd i lawr a bwyta gyda’i gilydd wrth fwrdd ac yn cael eu hannog i roi cynnig ar fwydydd newydd.
- Bydd eich plentyn yn datblygu arferion bwyta’n iach yn ifanc a fydd, gobeithio, yn parhau weddill eu bywyd.
- Bydd eich plentyn yn derbyn 1/3 o’i g/ofynion maethol dyddiol drwy gael pryd o fwyd ysgol.
- Mae’r prydau bwyd yn gytbwys ac yn iach ac yn amrywio o un diwrnod i’r llall.
- Rydym yn darparu ar gyfer deiet llysieuol a figan wrth ystyried gofynion crefyddol a maethol.
- Gall eich plentyn ymuno â phrydau ar thema arbennig sy’n cysylltu â phynciau sy’n cael eu dysgu yn y dosbarth a hefyd mentrau cenedlaethol.
- Mae prydau ysgol yn werth ardderchog am arian ac yn darparu pryd o fwyd dau gwrs a diod sy’n iach a maethlon.
- Bydd pryd ysgol eich plentyn yn cynnwys cyfran o’r holl eitemau sydd wedi’u cynnwys ar y Plât Bwyta’n Iach.
Ein Ryseitiau a’n Cynhwysion:
- Gwneir pob un o’n prydau ysgol yn ffres, gan ddefnyddio cynhwysion naturiol a dulliau coginio traddodiadol.
- Os hoffech unrhyw ryseitiau a ddefnyddir ar y bwydlenni, cysylltwch â: Gill Jones ar 07794 627 915.
- Lle bo’n bosibl rydym yn ymdrechu i ddod o hyd i’n cynhwysion yn lleol.
- Ym mis Medi 2022 mae gan holl ddisgyblion llawn amser y Cyfnod Sylfaen hawl i Brydau Ysgol am Ddim.
Your Title Goes Here
Your content goes here. Edit or remove this text inline or in the module Content settings. You can also style every aspect of this content in the module Design settings and even apply custom CSS to this text in the module Advanced settings.
Sut i dalu am brydau ysgol eich plentyn?
- Mae hyn i gyd bellach yn cael ei wneud drwy’r ap ParentPay. Cysylltwch â Mrs Tracy Welsh am unrhyw faterion yn ymwneud â’r system dalu anariannol/ar-lein yma. t.welsh@plascrug.ceredigion.sch.uk
Oes gan eich plentyn hawl i Ginio Ysgol Am Ddim?
Byddwch yn gymwys i dderbyn y lwfans ar ran eich plentyn/plant os bydd Y DDAU faen prawf canlynol yn gymwys: –
1. Mae’r disgybl/ion (4+ oed) yn mynychu ysgolion o dan awdurdodaeth Awdurdod Addysg Ceredigion yn llawn amser
AC
2. Mae’r disgyblion yn byw gyda rhiant, partner neu warcheidwad cyfreithiol sy’n derbyn naill ai ar hyn o bryd:
- Cymhorthdal Incwm; neu
- Lwfans Ceiswyr Gwaith yn seiliedig ar incwm; neu
- Cymorth o dan Ran VI o Ddeddf Mewnfudo a Nodded 1999; neu
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy’n gysylltiedig ag Incwm (IR); neu
- Credyd Treth Plant ond nid Credyd Treth Gwaith ac sydd ag incwm blynyddol, fel yr asesir gan Gyllid a Thollau EM nad yw’n fwy na £16,190 SYLWER: Os ydych yn derbyn Credyd Treth Gwaith, nid ydych yn gymwys; neu
- Elfen gwarantedig o Gredyd Pensiwn y Wladwriaeth
Gwneud Cais ac Adnewyddu
Y cam cyntaf yw cwblhau ffurflen gais, sydd ar gael i’w lawrlwytho isod, neu os yw’n well gennych, cysylltwch â’r Awdurdod Addysg (01970 633664) a gellir prosesu eich cais ar unwaith dros y ffôn. Bydd gwiriadau cychwynnol a chyfredol i gadarnhau eich cymhwysedd yn cael eu gwneud gan ddefnyddio eich Rhif Yswiriant Gwladol a’ch Dyddiad Geni felly dylai adnewyddu, yn yr achosion hyn, fod yn awtomatig unwaith y bydd eich cais yn cael ei brosesu.
Lle mae gwiriadau yn amhosibl neu’n amhendant, bydd Cyngor Sir Ceredigion yn gofyn i chi ddarparu prawf dogfennol. I ymgeiswyr sy’n derbyn Cymhorthdal Incwm, bydd prydau ysgol am ddim yn cael eu darparu am gyfnod o chwe mis. I ymgeiswyr sy’n derbyn Credydau Treth Plant, bydd prydau ysgol am ddim yn cael eu darparu trwy gydol y flwyddyn ariannol a gwmpesir gan eu llythyr hysbysu gan Gyllid a Thollau EM. Tua mis cyn diwedd y cyfnodau hyn anfonir ffurflen Adnewyddu i chwi ei chwblhau.
Mewn achosion lle mae’r dystiolaeth o gymhwyso Credyd Treth Plant yn hwyr yn cael ei anfon at yr hawlydd gan Gyllid a Thollau EM, dylai rhieni anfon eu ffurflen cais ar unwaith i’r Swyddfa hon gyda nodyn yn nodi eu bod yn dal i ddisgwyl derbyn eu llythyr hysbysu. I ddechrau, bydd yn rhaid i rieni dalu am brydau ysgol ond bydd prydau ysgol am ddim wedi’u hawdurdodi’n ôl-weithredol a bydd rhieni’n cael eu had-dalu am gost prydau bwyd a dderbynnir ac a dalwyd amdanynt o ddyddiad derbyn y ffurflen gais unwaith y byddant yn derbyn a chyflwyno’r dystiolaeth ddogfennol gadarnhaol gan Gyllid a Thollau EM ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol.
Newid Mewn Amgylchiadau
Os bydd eich amgylchiadau’n newid, bydd angen i chi roi gwybod i’r Awdurdod Addysg ar unwaith. Mewn achosion lle mae hawlwyr yn methu â hysbysu’r Awdurdod o newidiadau sy’n effeithio ar hawl eu plant i ginio ysgol am ddim, mae’r Awdurdod yn cadw’r hawl i gymryd camau addas.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â:
Nick Smith
Uned Data Ceredigion
Adran Addysg a Gwasanaethau Cymunedol
Adran Addysg a Gwasanaethau Cymunedol
Canolfan Rheidol
Rhodfa Padarn
Llanbadarn Fawr
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 3EU
Ffôn: 01970 633664
E-bost: nick.smith@ceredigion.gov.uk
Ffacs: 01970 633663
Wyddoch chi?
Bwyta’n Iach
Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi ymrwymo i fwyta’n iach.
Nodau Polisi Bwyta’n Iach Cyngor Sir Ceredigion yw:-
- Cynnal a chynyddu dewisiadau bwyd iachach sydd ar gael. Adolygu a diweddaru ryseitiau a chylchoedd bwydlen yn gyson yn unol ag argymhellion.
- Cynyddu, ar bob lefel, yr ymwybyddiaeth, y wybodaeth a’r ddealltwriaeth o fanteision posibl bwyta’n iach.
- Sicrhau bod dulliau paratoi a choginio bwyd yn cydymffurfio ag egwyddorion bwyta’n iach h.y. grilio a choginio yn y popty yn hytrach na ffrio.
- Sicrhau bod y cynhyrchion bwyd sy’n cael eu cynhyrchu a’r contractau prynu yn cydymffurfio â’r argymhellion bwyta’n iach.
- Hyrwyddo bwyta’n iach drwy gynyddu’r nifer o ffrwythau, llysiau a chynhyrchion grawnfwyd heb eu mireinio yn y deiet, tra’n lleihau cyfanswm braster, siwgr a halen.
- Gofynnwch wrth Ddesg y Dderbynfa am gopi o’n bwydlen Prydau Ysgol presennol.
Melda John & Elonwy James
Rheolwyr Gwasanaeth Arlwyo Ceredigion