Derbyn Disgyblion

Mynediad i Ysgol Plascrug

Mae Corff Llywodraethol Ysgol Plascrug yn cymhwyso’r rheoliadau ar dderbyn myfyrwyr yn deg ac yn gyfartal i bawb sydd am fynychu’r ysgol hon. Cyflwynodd Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 fframwaith newydd ar gyfer derbyniadau ysgolion ym mis Medi 2000. Mae’r polisi hwn yn cydymffurfio â’r rheoliadau sy’n cael eu nodi yn y Ddeddf honno a hefyd yn cael eu hesbonio ymhellach yn y Cod Ymarfer Derbyniadau Ysgolion statudol a’r Cod Ymarfer Apeliadau statudol.

Yr Awdurdod Derbyn sy’n gyfrifol yn y pen draw am dderbyn disgyblion i’r ysgol, sef Awdurdod Addysg Lleol Ceredigion (AALl).

Cyfeiriad: Swyddog Derbyniadau, Adran Addysg, Canolfan Rheidol, Rhodfa Padarn, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3UE.

Nodau ac amcanion

Rydym yn ysgol gynhwysol sy’n croesawu plant o bob cefndir a gallu.

Bydd pob cais yn cael ei drin ar sail teilyngdod ac mewn modd sensitif.

Yr unig gyfyngiad a roddir ar fynediad yw niferoedd. Os yw nifer y plant sy’n gwneud cais am fynediad yn fwy na’r llefydd sydd ar gael, rydym yn gorfodi’r weithdrefn a nodir isod er mwyn penderfynu a yw plentyn yn cael ei dderbyn ai peidio. Ein dymuniad yw caniatáu hawl i rieni gael lle yn yr ysgol o’u dewis. Yn anffodus, nid yw hyn bob amser yn bosib, oherwydd y galw gormodol ar y llefydd ysgol sydd ar gael.

Nid oes gan lefel gallu plentyn neu unrhyw anghenion arbennig sydd ganddo ef/hi, unrhyw ran ym mholisi derbyn yr ysgol hon.

Mynediad i’r Uned Feithrin (3 oed)

Gall ein Huned Meithrin gynnwys hyd at 52 o blant rhan amser; 26 yw’r nifer mwyaf ar gyfer y sesiwn bore neu brynhawn. Gellir derbyn plant ar ddechrau’r tymor yn dilyn eu pen-blwydd yn 3 oed ar yr amod bod digon o le ar gael; i ddechrau mae’r plant hyn yn mynychu’n rhan-amser.

Gall plant fynychu’r Feithrinfa’n llawn amser yn y tymor yn dilyn eu pen-blwydd yn 4 oed.

Trosglwyddo o’r Uned Feithrin i Ddosbarthiadau Derbyn

Mae plant yn symud i Ddosbarthiadau Derbyn yn y mis Medi ar ôl eu pen-blwydd yn 4 oed. Ar y pwynt trosglwyddo hwn, mae angen i rieni wneud cais unwaith eto i’r AALl ar gyfer mynediad i’r ysgol brif ffrwd; bydd yr AALl unwaith eto yn cymhwyso’r un meini prawf derbyn.

Yn ymarferol, lle mae rhieni yn dymuno i’w plant barhau â’u haddysg yn Ysgol Plascrug, ni fydd problem. Ond rhaid nodi nad oes sicrwydd o le yn ein dosbarth Derbyn i ddisgyblion sydd eisoes yn mynychu’r Uned Feithrin.