Blwyddyn 3

Croeso i Flwyddyn 3.

Y tymor hwn, mae Blwyddyn 3 wedi dewis dysgu am fforestydd glaw ledled y byd. Yn ystod y tymor byddwn yn cymryd rhan mewn gweithgareddau dysgu cyffrous i geisio ateb y cwestiynau canlynol:

Beth yw coedwig law?

Ble mae’r goedwig law?

Pwy sy’n byw yn y goedwig law?

Pam achub y goedwig law?

Sut allwn ni achub y goedwig law?

Pryd ddylen ni achub y goedwig law?

Byddwn ni’n dysgu gweithio’n effeithiol mewn grwpiau ac yn annibynnol, gan ddatblygu ein sgiliau llythrennedd, rhifedd a TGCh ar draws y cwricwlwm. Byddwn yn dewis ein lefel ein hunain o her ar gyfer tasgau a chofleidio grym meddylfryd ‘hyd yma’! Rydym yn edrych ymlaen at ddysgu yn yr awyr agored pan bydd y tywydd yn caniatáu a bod yn greadigol y tu mewn a thu allan i’r ystafell ddosbarth.

Er mwyn helpu eich plentyn eleni, gofynnir yn garedig i chwi ddarllen gyda nhw’n rheolaidd yn ystod yr wythnos. Byddwn hefyd yn anfon sillafiadau gartref i’w hymarfer er mwyn cynorthwyo’r plant gyda’u hysgrifennu yn y dosbarth. Bydd gwaith cartref yn cael ei osod yn rheolaidd ar Teams. Gallwch gael mynediad i Teams drwy Hwb neu trwy lawrlwytho ap Microsoft Teams ar ffôn neu dabled. Rhowch wybod os oes angen unrhyw gymorth arnoch gyda hyn a byddwn yn hapus i helpu! Rydym wedi anfon gartref, manylion mewngofnodi y disgybl ar gyfer y rhaglenni rydyn ni’n eu defnyddio. Anogir disgyblion i ddefnyddio PurpleMash gartref i ddatblygu sgiliau TGCh a TT Rockstars i ymarfer amserlennu.

Diolch am eich holl gefnogaeth. Rydym yn edrych ymlaen at flwyddyn hwyliog!

hoolek@hwbcymru.net

lewisa833@hwbcymru.net

Dyma rai lluniau o’r hyn yr ydym wedi bod yn ei wneud hyd yn hyn!