Blwyddyn 5

Blwyddyn 5 / Year 5 – @Bl5Plascrug

Miss H Williams/Mrs Ff Hughes – Miss L Wilkins

Pethau i’w cofio:

  • Darllen llyfrau yn ddyddiol – dylai disgyblion fod yn darllen am 10-15 munud bob nos.
  • Tablau lluosi – bob nos.

Y tymor yma ein pwnc yw ‘Potions’. Byddwn ni’n ymgorffori ein thema drwy’r Cwricwlwm o broblemau geiriau hudolus mewn mathemateg i arbrofion creadigol mewn Gwyddoniaeth.

Byddwn yn astudio The Witches gan Roald Dahl ynghyd a darganfod mwy o wybodaeth am Roald Dahl ei hun – creu ffeil ffeithiau a chyflwyniad PowerPoint ar yr awdur plant.

Y tymor hwn byddwn yn gwneud Gymnasteg o fewn Addysg Gorfforol tra hefyd yn caniatáu i’r plant greu a datblygu eu ‘gemau hudolus’ eu hunain er mwyn integreiddio ein thema o fewn ein gwersi AG.

Yn Gymraeg, mi fyddwn yn cymharu tirwedd, traddodiadau a bywyd yn Norwy â Chymru. Hefyd , mi fyddwn yn astudio hanes Gwen Ellis a’i dylanwad hi yng Nhymru sydd ynghlwm â’r llyfr rydym yn astudio, The Witches.

In association with The Welsh Curriculum, we shall be comparing climate, traditions and life in Norway and Wales. During the year we will be researching about Gwen Ellis and her history and influence in relation with the book studied.

Bydd ein gwersi yn cael eu cynllunio gyda’r ‘Pedwar Diben’ yn greiddiol i bopeth gan alluogi’r disgyblion i ddod yn:

  • Unigolion Iach, Hyderus
  • Dysgwyr Uchelgeisiol, Galluog
  • Cyfranwyr Mentrus, Creadigol
  • Dinasyddion Egwyddorol, Gwybodus

Gwefannau Defnyddiol

https://www.ttrockstars.com/

https://www.topmarks.co.uk/maths-games/7-11-years/multiplication-and-division

https://www.topmarks.co.uk/maths-games/hit-the-button

https://www.mathsisfun.com/tables.html