Clwb Brecwast Ysgol Plascrug
Fel rhan o gynllun Llywodraeth Cymru, darparwn frecwast iach AM DDIM a goruchwyliaeth yn neuadd yr ysgol o 8:05 ar bob diwrnod ysgol.
Dywedir ers blynyddoedd bellach mai brecwast yw pryd pwysicaf y dydd ac mae tystiolaeth yn profi fod brecwast iach yn gysylltiedig â gwell iechyd, y gallu i ganolbwyntio’n well a gwell ymddygiad mewn ysgolion.
Gofynnwch yn y Dderbynfa am fanylion ar sut i gofrestru eich plentyn ar gyfer y Clwb Brecwast.
Clwb Ar Ol YSgol
Mae’r clwb yn agor am 3.35, ac yn cau yn brydlon am 5.30 .
Os oes angen ffurflen gofrestru ar gyfer eich plentyn, cysylltwch a Mrs Tracy Tedaldi yn y dderbynfa os gwelwch yn dda.