ADY

Catrin Rhys – CADY – Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol

RhysC4@plascrug.ceredigion.sch.uk

Beth yw Anghenion Dysgu Ychwanegol?

Mae tua 1 ym mhob pump plentyn yn profi elfen o Angenhion Dysgu Ychwanegol yn ystod ei amser yn yr ysgol.
Mae’r gyfraith yn honi fod gan blentyn Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) os oes ganddo/hi anhawsterau dysgu neu ymddygiad sydd yn gofyn am gymorth arbennig.

Mae gan eich plentyn anawsterau dysgu os yw’n :

  • ei chael hi’n anoddach i ddysgu na’r rhan fwyaf o blant o’r un oed
  • ag anabledd sy’n ei gwneud hi’n anodd defnyddio’r ysgol leol

Gall anawsterau dysgu gael eu hachosi gan:

  • anabledd corfforol
  • problem gyda golwg, clyw, llefaru ac iaith
  • oedi mewn datblygiad
  • anawsterau emosiynol ac/neu ymddygiad
  • problem feddygol
  • anawsterau penodol gyda darllen, ysgrifennu neu fathemateg

Bydd athro dosbarth y plentyn, y CADY neu’r Pennaeth bob amser yn trafod unrhyw bryderon sydd gan rhieni am eu plentyn.

Gellir diwallu’r rhan fwyaf o’r anghenion yn yr ysgol brif ffrwd gan athro dosbarth y plentyn. Weithiau, bydd cymorth hefyd yn cael ei roi gan arbenigwyr eraill.

Dyma rai enghreifftiau o’r mathau o anawsterau y gall plentyn ag anghenion addysgol ychwanegol eu profi.

  • darllen, ysgrifennu, gwaith rhif
  • deall gwybodaeth
  • mynegi eu hunain neu ddeall beth mae eraill yn ei ddweud
  • gwneud ffrindiau neu ymwneud ag oedolion
  • ymddwyn yn briodol yn yr ysgol
  • trefnu eu hunain
  • anhawster wrth glywed, gweld, neu symud o gwmpas a allai effeithio ar eu dysgu

Ymwybyddiaeth o Awtistiaeth

Mae Ysgol Plascrug hefyd yn ysgol gyfeillgar i awtistiaeth ar ôl cwblhau’r rhaglen Dysgu gydag Awtistiaeth Ysgol Gynradd, sydd wedi’i achredu gan ASDinfoWales. Diolch i’r holl staff addysgu a chymorth, tîm gweinyddu, goruchwylwyr amser cinio a llywodraethwyr ysgol sydd wedi ymgymryd â’r cynllun hyfforddiant ac ardystio ymwybyddiaeth o awtistiaeth ac i’r disgyblion sydd wedi cymryd rhan yn y gwersi ymwybddiaeth o awtistiaeth ac wedi llofnodi’r siarter.