Wedi ystyried barn plant, rhieni, staff a Llywodraethwyr a nodi’r Ddogfen Canllawiau Cenedlaethol; o fis Medi 2020, bydd gwisg yr ysgol fel a ganlyn:
Esgidiau ymarferol a chyfforddus, trowsus llwyd neu ddu, sgert neu siorts, crys polo gwyn neu wyrdd (opsiwn gwyn llawes hir ar gael) a crys chwys neu gardigan glas tywyll. Cofiwch y gallwch chi barhau i ddefnyddio’r crysau polo glas os ydynt yn dal yn addas. Mi fydd Emlyn Jones yn ‘Dillad Cit’ yn parhau i ddarparu’r gwisg ysgol. Mae hefyd ganddo grysau-t ac eitemau eraill o wisg ysgol ar gael. Mae ffynonellau eraill hefyd ar gael wrth gwrs. Yn ogystal, gallwch brynu eitemau o wisg ysgol heb logo’r ysgol os byddwch chi’n dewis gwneud hynny.
Cofiwch hefyd fod gennym werthiant dillad ysgol ail law bob hanner tymor yn y brif dderbynfa lle gallwch brynu eitemau o wisg ysgol yn rhâd.
Gwelwch y ddolen isod i rhan Ysgol Plascrug ar y wefan ‘Dillad Cit’