Blwyddyn 6 – @Bl6Plascrug
Welcome back to a brand new term.
Croeso nol i dymor newydd.
Mrs A Jones/ Miss R Hughes
Gwybodaeth Bwysig:
- Bydd angen gwisgo Addysg Gorfforol i’r ysgol ar ddydd Llun a dydd Gwener.
- Mae angen i bob disgybl ddod â’u llyfr darllen a’u cofnod darllen i’r ysgol bob dydd. Dylai’r disgyblion hefyd fod yn darllen gartref am oddeutu 20 munud y dydd. Dylai tablau lluosi gael eu hymarfer bob dydd gan yr holl ddisgyblion er mwyn eu cefnogi yn ystod eu gwersi mathemateg a rhifedd (TT Rockstars).
- Multiplication tables should be practiced daily by all pupils in order to support them during their maths and numeracy lessons (TT Rockstars).
Ar ddechrau’r tymor hwn, rhoddwyd cyfle i’n disgyblion Blwyddyn 6 ddewis eu thema. Dewisodd y mwyafrif yr Ail Ryfel Byd, sy’n thema wych y gellir ei hymgorffori ar draws y cwricwlwm, megis datrys problemau geiriau mathemategol yr Ail Ryfel Byd a chreu/perfformio cân faciwîs.
O ran y Cwricwlwm Cymraeg bydd y disgyblion yn ymchwilio i’r effaith gafodd yr Ail Ryfel Byd ar Gymru ac Aberystwyth, a byddant yn holi pobl leol a lwyddodd yn wyrthiol i fyw drwy’r Rhyfel.
Bydd ein holl wersi ym Mlwyddyn 6 yn cael eu cynllunio o amgylch y Pedwar Diben er mwyn cefnogi’r disgyblion i ddod yn:
- Ddysgwyr Uchelgeisiol, Galluog ac yn barod i ddysgu drwy gydol eu bywydau.
- Gyfranwyr Mentrus, Creadigol ac yn barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a’u gwaith.
- Ddinasyddion Egwyddorol, Gwybodus ac yn barod i fod yn ddinasyddion i Gymru a’r byd.
- Unigolion Iach, Hyderus ac yn barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, mae croeso i chi gysylltu trwy e-bost.