Cyngor Eco

Yma ym Mhlascrug, dilynwn y fenter Ysgolion Eco, sy’n annog disgyblion i ymwneud â materionamgylcheddol a datblygu cynaliadwy.

Mae’r Pwyllgor Eco yn cynnwys disgyblion o Flwyddyn 1 i Flwyddyn 6. Cawsant eu hethol gan eucyfoedion ar ddechrau’r flwyddyn academaidd ac maent yn cwrdd yn rheolaidd yn ystod amser cinio igynllunio, trafod a threfnu digwyddiadau. Ar hyn o bryd, mae’r aelodau yn brysur yn gweithio efo’r Cyngor Ysgol, Y Corff Llywodraethwyr a’r Uwch Dîm Rheoli i helpu a trefnu ein ardal allanol. Rydym wedi gwneud cynnydd arbennig ac mae’r llwyddiant rydym wedi’i gael hyd yn hyn yn ardderchog!

Dyma rhai o aelodau’r Cyngor Eco yn dangos Ben Lake AS ac aelodau o Gyngor Ceredigion o amgylch ein ardal allanol newydd.

Mae’r Cyngor Eco wedi bod yn brysur iawn yn tacluso ac yn adeiladu ein ardal allanol gyda cefnogaeth arbennig oddi wrth aelodau ein CRhA a rhiant wirfoddolwyr.