Ein Hysgol

Mae Ysgol Gynradd Gymunedol Plascrug yn ysgol a gynhelir gan yr AALl, wedi’i lleoli yn nhref arfordirol hyfryd Aberystwyth, Ceredigion.

Mae tua 450 o ddisgyblion yn yr ysgol o 3-11 mlwydd oed. Rhennir dosbarthiadau yn grwpiau Blwyddyn a cheir dosbarthiadau cyfochrog o allu cymysg yn rhedeg drwy’r ysgol. Mae maint y dosbarthiadau yn amrywio o 20 i 30 mewn nifer. Mae’r dosbarthiadau Meithrin yn gweithredu’n rhan-amser (bore / ‘pnawn.) i blant 3 oed, ac yn llawn amser pan fyddant yn cyrraedd 4 oed. Bydd disgyblion yn mynd i’r dosbarthiadau Derbyn prif ffrwd yn y mis Medi yn dilyn eu pen-blwydd yn 4 oed.

Cymuned ein Hysgol

Mae cymuned yr ysgol yn un cosmopolitaidd gyda tua chwarter ein disgyblion yn dod o wledydd tramor. Yn gyfan gwbl, mae 38 o wledydd yn cael eu cynrychioli, a 36 o ieithoedd gwahanol yn cael eu siarad yn yr ysgol. Llawenhawn yn yr amrywiaeth diwylliannau a chrefyddau a adlewyrchir yn yr ysgol ac yn y cytgord a’r cyfeillgarwch sy’n datblygu ymhlith ein plant.

Ein Hethos

Yma, yn Ysgol Plascrug, ein nod yw sefydlu hinsawdd o fewn yr ysgol a’r ystafell ddosbarth lle gall pob plentyn ddatblygu meddyliau bywiog a chwilfrydig, a dysgu ar gyflymder sy’n berthnasol i’w profiad a’u gallu eu hunain. Mae disgyblion yn datblygu cymhwysedd mewn llawer o sgiliau, ee Rhifedd, Llythrennedd, Cymhwysedd Digidol, ac yn gallu defnyddio’r sgiliau hyn gyda mwy o hyder, cymhwysedd, dealltwriaeth a phleser ym mhob maes o’r cwricwlwm wrth iddynt symud trwy’r ysgol.

Mae’r ysgol yn ran o gynllun Ysgolion Iach ac mi ydym yn hybu bywyd iach. Yr ydym yn annog rhieni i gefnogi bwyta’n iach gan sicrhau bod ei plentyn yn cael cyfle i fwyta cinio ysgol.

Credwn mewn dysgu gydol oes lle rydym i gyd yn dysgu oddi wrth ein gilydd, yn rhannu profiadau ac yn darganfod y cyffro o gaffael gwybodaeth a dealltwriaeth newydd gyda’n gilydd.

Ein Athrawon

Mae ein tîm cynnes a chyfeillgar o athrawon a chynorthwywyr addysgu yn cefnogi datblygiad pob unigolyn i’w llawn botensial, drwy ddisgwyliadau uchel a gwaith caled. Mae nhw’n deall ac yn diwallu angen pob math o angen arbennig, h.y. corfforol, deallusol, ac emosiynol, yn ôl anghenion ac amgylchiadau pob plentyn. Rydyn ni am i’n holl blant brofi llwyddiant, dathlu cyflawniadau a theimlo’n dda amdanynt eu hunain.

Ein gobaith yw bod ein plant i gyd yn datblygu yn aelodau addysgedig, cwrtais a chyfrifol o’r gymuned; bydd ganddynt barch tuag atynt eu hunain, at eu cyflawniadau eu hunain ac eraill, ac am gredoau a diwylliannau crefyddol pobl eraill. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd lle mae plant ac oedolion yn gweld cwrteisi fel norm, lle ceir ymdeimlad brwd o berthyn a balchder ym mhob peth maent yn ei wneud.

Mae Ysgol Plascrug yn fan lle mae pob plentyn yn bwysig. Rydym am arwain ein disgyblion i’r ffordd i lwyddiant lle byddant yn cyflawni eu huchelgeisiau ac yn gwireddu eu breuddwydion.

Gwyliwch y fideo yma wedi’i greu gan y Dewiniaid Digidol i groesawu ein hymwelwyr Erasmus i Ysgol Plascrug!

Dyma ddolen i’n blog Erasmus+ Darllenwch i ddysgu mwy am ein ysgolion partner https://runjumplearn.wordpress.com/