Llywodraethwyr

Y Corff Llywodraethol

Mae gan y Corff Llywodraethol gyfrifoldeb cyffredinol am weld bod yr ysgol yn cael ei rhedeg yn effeithiol, yn gweithredu o fewn y fframwaith a bennir gan ddeddfwriaeth a bod polisïau’r Awdurdod Addysg Leol (AALl) a Llywodraeth Cymru yn cael eu dilyn.

Mae’r Pennaeth a’r Corff Llywodraethol yn gweithio mewn partneriaeth agos a chytbwys i ddarparu’r addysg orau posibl ar gyfer y disgyblion yn Ysgol Plascrug. Mae’r llywodraethwyr yn gweithio gyda’r Pennaeth i feddwl yn strategol am sut i godi safonau cyflawniad ar gyfer pob disgybl yn yr ysgol, ar gyfer gosod y gyllideb ac am oruchwylio’r cwricwlwm. Mae ganddynt hefyd bwerau mewn perthynas â phenodi a diswyddo staff ac eithrio ac ailosod y disgyblion.

Mae cyfarfod o’r Corff Llywodraethol llawn unwaith bob tymor. Mae yna hefyd bedwar gwahanol is-bwyllgor sydd hefyd yn cwrdd bob tymor; Cyllid a Staffio; Cwricwlwm a Pholisi; Iechyd a Diogelwch / Adeiladau ac Eiddo. Cynhelir y cyfarfodydd yn gyffredinol yn y nos.

Beth yw Llywodraethwyr?

Mae llywodraethwr:

  • yn wirfoddolwr;
  • yn malio am addysgu, dysgu a phlant;
  • yn cynrychioli pobl y gymuned leol a staff yr ysgol;
  • yn rhan o dîm sy’n derbyn cyfrifoldeb am bopeth a wna’r ysgol;
  • â’r amser i fynychu cyfarfodydd tymhorol ac achlysuron eraill pan fo angen;
  • yn barod i ddysgu;
  • yn gallu gweithredu fel ffrind sy’n cefnogi’r ysgol ond sy’n gallu cadw llygad beirniadol ar y ffordd y mae’r ysgol yn gweithio a’r safon a gyflawnir ganddi;
  • yn gweithredu fel cyswllt rhwng y rhieni, y gymuned leol a’r ysgol.

Mae pob rhan o’r ysgol a’r gymuned leol yn cael eu cynrychioli ar y Corff Llywodraethol ac mae sawl math o Lywodraethwr:

RHIANT LYWODRAETHWYR

Fe’u hetholir gan rieni’r disgyblion cofrestredig ac mae’n rhaid iddynt fod yn rhieni ar ddisgyblion sydd yn yr ysgol ar adeg eu hetholiad. Eu rol yw i fagu cysylltiadau rhywn yr ysgol a’r rhieni.

LLYWODRAETHWYR YR AWDURDOD ADDYSG LLEOL (AALl)

Mae llywodraethwyr AALl yn Gynghorwyr Sir neu aelodau sydd wedi’u henwebu gan y Corff Llywodraethol a’u cadarnhau gan y Cyngor Sir yng nghyfarfod eu Cabinet.

ATHRAWON A STAFF LYWODRAETHWYR

Fe’u hetholir gan, ac o blith, staff addysgu a chynorthwyol yr Ysgol.

LLYWODRAETHWYR CYMUNEDOL

Unigolion yw’r rhain a benodir gan y Corff Llywodraethol. Wrth benderfynu pwy y dylid ei benodi, ceisiwn sicrhau bod y corff yn adlewyrchu diddordebau cytbwys. Wrth benderfynu pwy i benodi rydym yn ceisio sicrhau bod y Corff Llywodraethol yn adlewyrchu cydbwysedd buddiannau.

LLYWODRAETHWYR CYMUNEDOL YCHWANEGOL

Fe’u henwebir gan y Cyngor Tref.

Mae’r Corff Llywodraethol hefyd yn cynnwys y Pennaeth a Chlerc i’r Corff Llywodraethol sy’n gweithio i’r Awdurdod Addysg Leol. Mae pob Llywodraethwyr yn cael eu penodi am gyfnod o bedair blynedd.

Tîm Cefnogi Llywodraethwyr Ceredigion:

Angela Jones – Arweinydd Tim
01970 633637

Pauline Lucas – Uwch Swyddog Cefnogi Llywodraethwyr
01970 633676

Wendy Jones – Cymorth Datblygu Llywodraethwyr
01970 633616

E-bost:- governors@ceredigion.gov.uk
Rhif Ffacs:- 01970 633663

Cyfeiriad Swyddfa:-

Adran Llywodraethwyr
Canolfan Rheidol
Rhodfa Padarn
Llanbadarn fawr
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 3UE

Adroddiad Llawn i Rieni 2018-2019