CRA – Ffrindiau Plascrug

Cymdeithas Rhieni ac Athrawon

Ffrindiau Ysgol Plascrug / Friends of Plascrug School

Mae ysgol lwyddiannus yn ddibynnol ar ewyllys da a chyfranogiad gweithredol y rhieni, ac yn hyn o beth nid yw Ysgol Plascrug yn eithriad. Ar wahân i aelodaeth o’r GRhA, rydym yn gwerthfawrogi’r sgiliau a’r amser sydd gennych i’w cynnig. Mae nifer o ffyrdd y gallwch chi helpu’ch plentyn/plant a gwella bywyd yr ysgol.

Yn gyntaf gallwch helpu eich plant gyda sgiliau llythrennedd a rhifedd sylfaenol trwy:

  • Darllen gyda’ch plant
  • Gwrando arnynt yn darllen
  • Cefnogi’r Cynllun Darllen Cartref
  • Annog eu defnydd o rifau yn y cartref
  • Eu cefnogi gydag unrhyw waith cartref

Yn ail, rydym angen eich doniau, eich sgiliau a’ch profiadau o fewn yr ysgol. Os oes gennych amser yn ystod y dydd, gallwch gynnig helpu gyda…

  • Datblygu sgiliau cyfrifiadurol, (TGCh)
  • Darllen
  • Gemau mathemateg
  • Celf a chrefft
  • Cerddoriaeth
  • Gosod arddangosfeydd

… Rydym angen eich help!

Yn drydydd, mae llawer o’n gweithgareddau allgyrsiol yn dibynnu ar staff a rhieni cefnogol am lwyddiant. Os allwch chi helpu…

  • I fynd â phlant i gemau a chystadlaethau,
  • I oruchwylio ar deithiau neu ddyddiau chwaraeon…

…cysylltwch â’ch athro dosbarth neu Bennaeth Adran os ydych yn teimlo y gallwch gyfrannu mewn unrhyw ffordd. Gwerthfawrogwn eich cefnogaeth yn fawr!

Cymdeithas Rhieni ac Athrawon – Cyfeillion yr Ysgol

Mae pob rhiant yn awtomatig yn aelodau o’r Gymdeithas. Ein gobaith yw, y byddwch yn cefnogi gweithgareddau a digwyddiadau, ac yn cyfrannu’n frwd at y gwaith amhrisiadwy a wneir gan rieni i gefnogi addysg plant yn Ysgol Plascrug.

Mae’r Cyfeillion yn trefnu digwyddiadau codi arian a digwyddiadau cymdeithasol, sy’n amrywio o ffeiriau i gwisiau, nosweithiau jas i farbeciws. Mae llawer o ddigwyddiadau cymdeithasol yn cael eu cynnal drwy gydol y flwyddyn yn weithgareddau teuluol ac yn gymdeithasu oedolion.

Mae hysbysfwrdd y Gymdeithas yn dangos gwybodaeth ddefnyddiol ac mae’r cylchlythyr tymhorol yn eich cadw’n hysbys o’r holl ddigwyddiadau a gweithgareddau diweddaraf yn yr ysgol. Ceisiwch eu darllen yn rheolaidd.

Mae’r Gymdeithas yn bodoli i helpu rhieni i gymryd rhan ym mywyd yr ysgol. Mae’n bwysig bod cymaint o rieni â phosibl yn mynychu’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ar ddechrau Tymor yr Hydref fel bod modd cyflwyno rhieni newydd i’r ysgol a chymryd rhan o’r cychwyn cyntaf.

Gofynnwch yn Nerbynfa Ysgol Plascrug os oes gennych angen rhagor o wybodaeth am y Gymdeithas.